Newyddion & Hysbysebion

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20

Hysbysiadau Archwilio sy’n cael eu hychwanegu gan Reoliadau

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20

Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog ariannol cyfrifol Cyngor Cymuned Dolbenmaen lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno derbyniadau a thaliadau’r Cyngor yn gywir am y flwyddyn . Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.

Nid yw’r swyddog ariannol cyfrifol wedi llofnodi a thystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 oherwydd nid oedd y Cyngor Cymuned yn cyfarfod tan 1af o Orffennaf.

Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y swyddog ariannol cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.

Cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor ar y 1af o Orffennaf 2021 i gymeradwyo’r cyfrifon.

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20