Y Cyngor
Cynghorau Cymuned
Mae Cynghorau Cymuned yn cynrychioli cymunedau unigol o fewn eu siroedd. Eu prif nod yw gwella amgylchedd ac ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yn eu hardaloedd.
Mae gan Gynghorau Cymuned bwerau cyfreithiol i ddarparu rhai gwasanaethau, ac maent yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Sir yn eu hardal.
Dyma ambell beth mae Cynghorau Cymuned yn gyfrifol amdanynt –
- hysbysfyrddau ac arwyddion gwybodaeth i’r cyhoedd
- meinciau cyhoeddus a llochesi bysiau
- cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus
- gofalu am fynwentydd.
Pwy all fod yn Gynghorydd Cymunedol?
Mae’n rhaid i chi fod yn:
- ddeiliad Prydeinig, neu’n ddinesydd y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd; ac ar y “dyddiad perthnasol” (h.y. y diwrnod y cewch eich enwebu arno neu, os oes etholiad, diwrnod yr etholiad) yn 18 oed neu drosodd;
A hefyd:
- ar y “dyddiad perthnasol”, yn etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor yr ydych am sefyll ar ei chyfer; neu
- eich bod yn ystod cyfnod cyfan y 12 mis blaenorol wedi meddiannu, yn berchennog neu’n denant unrhyw dir ac adeiladau eraill yn ardal y cyngor; neu
- yn ystod yr un cyfnod fod eich prif neu unig fan gwaith yn ardal y cyngor; neu
- eich bod yn ystod y cyfnod 12 mis hwnnw wedi byw yn ardal y cyngor (neu o fewn tair milltir iddi)
Cyllid
Bob blwyddyn, bydd y Cyngor yn ceisio rhagweld pa wasanaethau y bydd yn eu darparu, ac yn amcangyfrif faint o arian fydd ei angen arno i’w cyllido. ‘Gosod praesept’ yw’r term swyddogol am hyn, ac mae’r arian yn cael ei gasglu drwy’r Dreth Gyngor.
Rhoddion Ariannol
Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn caniatáu i Gynghorau Cymuned wario ar weithgarwch nad oes ganddynt bwerau penodol yn ei gylch, os yw’r Cyngor o’r farn y bydd y gwariant o fydd uniongyrchol i’r ardal. Rhoddir caniatâd hefyd i’r Cyngor wario at ddibenion elusennol.
Bob blwyddyn, rhoddir cyfle i fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor a thu hwnt, wneud cais am rodd ariannol. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â’r Clerc a rhoi manylion bras am waith y mudiad ynghyd â chopi o’r fantolen ddiweddaraf.
Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi rhoi arian i’r canolfannau cymdeithasol yn yr ardal, i gylchoedd meithrin lleol ac i amrywiol elusennau, grwpiau a chymdeithasau yn yr ardal leol a thu hwnt.
Llwybrau Cyhoeddus
Mae’r defnydd o lwybrau cyhoeddus yn amrywio, gydag ambell lwybr yn cael ei ddefnyddio’n gyson, a dim cymaint o ddefnydd ar lwybrau eraill.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno system o gategoreiddio llwybrau sy’n seiliedig ar y defnydd y mae pobl yn ei wneud o’r llwybrau a’u buddioldeb.
Categori |
Diffiniad |
1 |
Llwybrau sy’n hwyluso symudiad pobl. Fel arfer, maent yn cael defnydd sylweddol neu’n ffurfio cyswllt mewn pentrefi. |
2 |
Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau. |
3 |
Llwybrau, a dim ond defnydd achlysurol arnynt, ond sy’n ffurfio cyswllt pwysig rhwng y llwybrau yng nghategoriau 1 a 2. |
4 |
Llwybr heb unrhyw fudd na photensial amlwg lle mae llwybr arall rhesymol a chyfleus ar gael ar lwybr categori uwch. |
Am fwy o wybodaeth gweler Polisiau Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd |
Cynghorwyr
Mae 16 sedd ar y Cyngor. Mae’r Cynghorwyr, sy’n rhoi eu gwasanaeth yn wirfoddol ac yn ddi-dâl, yn cynrychioli’r wardiau o fewn y gymuned.
Mae rhai o’r Cynghorwyr wedi gwasanaethu ers blynyddoedd lawer, ac mae’n braf gweld Cynghorwyr ifanc hefyd yn elwa o brofiad helaeth y gweddill, ac yn rhoi llais i’r genhedlaeth iau.
Dyma restr o’r aelodau a’u manylion cyswllt:
Ward | Enw | Cyfeiriad | Rhifau Ffôn | Ymlyniad Gwleidyddol | Aelodaeth Is-Bwyllgor |
Bryncir | Edward Evans | Llystyn Isaf, Bryncir, Gwynedd. LL51 9LX | 01766 530226
07706042244 |
Annibynnol | Mynwentydd.
Eiddo. |
Richard Parry | Gwindy, Llecheiddior, Bryncir, Gwynedd. LL51 9EZ | 01766 530252 | Annibynnol | Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus. |
|
Prenteg | Gwilym Evans | Gelli, Prenteg, Gwynedd. LL49 9TD | 01766 512632
07527960363 |
Annibynnol | Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus. |
J Richard Williams | Portreuddyn, Tremadog, Gwynedd. LL49 9SN | 01766 513937
07717192263 |
Annibynnol | Mynwentydd.
Eiddo. |
|
Garndolbenmaen | Anwen Humphreys | Oneida, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9RX | 01766 530719 | Annibynnol | Cyllid a Llywodraethiant. |
John Jones | Tan Ffolt, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9TZ | 01766 530312
07774603826 |
Annibynnol | Mynwentydd.
Llwybrau Cyhoeddus. |
|
Clifford Williams | Llechwedd, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9TZ | 01766 530325
07733408916 |
Annibynnol | Eiddo. | |
Dylan Pritchard | 2 Bryn Eifion, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9TQ | 07795681647 | Annibynnol | ||
Golan | Amanda Noutch Owen | Clenennau, Golan, Garndolbenmaen. LL51 9YU | 01766 530248
07786267486 |
Annibynnol | Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus. |
Megan Lloyd Williams | Cefn Coch Uchaf, Cwmystradllyn, Garndolbenmaen. LL51 9AZ | 01766 530319
07810225308 |
Annibynnol | Mynwentydd.
Eiddo. |
|
Penmorfa | Dafydd Thomas | Alltwen, 2 Bryncir Terrace, Penmorfa, Gwynedd. LL49 9RY | 01766 513254
|
Annibynnol | Mynwentydd.
Eiddo. |
Gwenno Emlyn Huws | Ffynnon Beuno, Penmorfa, Gwynedd. LL49 9SG | 01766 512101
07765361132 |
Annibynnol | Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus. |
|
Iddon Edwards | Cae Cerrig, Penmorfa, Gwynedd. LL49 9RT | 01766 514587
07766346379 |
Annibynnol | Cyllid a Llywodraethiant. | |
Pentrefelin | Huw Pritchard | Nant, 15 Bryn Tyddyn, Pentrefelin, Gwynedd. LL52 0PE | 01766 522558
07792174329 |
Annibynnol | Mynwentydd.
Llwybrau Cyhoeddus. |
Delyth Evans | Bryn Melyn, Treflys, Porthmadog. LL49 9YN | 01766 515963
07887608139 |
Annibynnol | Eiddo.
Cyllid a Llywodraethiant. |
|
Manon Jones Evans | 45 Bryn Tyddyn, Pentrefelin, Gwynedd. LL52 0PE | 07884098092 | Annibynnol |
Cyfarfodydd
Fel arfer, mae’r Cyngor yn cyfarfod yng Nghanolfan Cymdeithasol Golan ar nos Iau gyntaf y mis am 7 o’r gloch . Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac eithrio pan fo materion sensitif yn cael eu trafod. Cynhelir y cyfarfod blynyddol yn ystod mis Mai, ym mhob ward yn eu tro.
Newyddion & Hysbysebion
RHYBUDD O GANLYNIAD ARCHWILIAD
(DEDDF ARCHWILIO CYHOEDDUS (CYMRU) 2004
RHEOLIADAU ARCHWILIO A CHYFRIFO (CYMRU) 2014)
Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Y mae RHYBUDD yn cael ei roddi bod yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2020 wedi ei gwblhau ar
19 Tachwedd 2020
ac mae’r cyfrifon yn awr ar gael i etholwyr lleol eu harchwilio yn unol ag Adran
29 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Mae’r wybodaeth angenrheidiol fel y’i diffinnir gan Adran 18 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn cael ei harddangos yn Adran Dogfennaeth (Cyllid) y wefan.
Os nad yw’r wybodaeth angenrheidiol wedi’i harddangos wrth ochr yr hysbysiad hwn, bydd ar gael i’w harolygu drwy apwyntiad.
I drefnu i gael edrych ar y cyfrifon, cysylltwch â:
Clerc y Cyngor
cyngordolbenmaen@btinternet.com
01248 671243/07799026791
rhwng 9.00 a 7.00 o’r gloch
Dyddiedig: 8fed Rhagfyr 2020
Liz Watkin
(Swyddog Cyllido Cyfrifol)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.
Bydd angen gyrru llythyr cais a Mantolen Ariannol Gyfredol at y Clerc – Liz Watkin, Tyn Lôn, Bethel, Caernarfon. LL55 1UW neu cyngordolbenmaen@btinternet.com.
Dyddiad cau’r ceisiadau 31 Rhagfyr 2020. Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.
Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Cyfarfod Blynyddol Rhithiol
Nos Iau 3ydd o Fedi 2020 am 7 o’r gloch yr hwyr
Gellir ymuno trwy gysylltu â’r Clerc
01248 671243/07799026791
neu
cyngordolbenmaen@btinternet.com