CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
SEDD WAG ACHLYSUROL- WARD GARNDOLBENMAEN
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Garndolbenmaen ar Gyngor Cymuned Dolbenmaen.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 1 Hydref, 2021.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.
Liz Watkin
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 13 Medi 2021