Cysylltu
Sut i gysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
Liz Watkin
Clerc Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Tyn Lôn
Bethel
Caernarfon, Gwynedd
LL55 1UW
Rhif ffôn Ffôn: 01248 671243
Ffôn symudol: 07799026791
E-bost: cyngordolbenmaen@btinternet.com
Newyddion & Hysbysebion
RHYBUDD O GANLYNIAD ARCHWILIAD
(DEDDF ARCHWILIO CYHOEDDUS (CYMRU) 2004
RHEOLIADAU ARCHWILIO A CHYFRIFO (CYMRU) 2014)
Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Y mae RHYBUDD yn cael ei roddi bod yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2020 wedi ei gwblhau ar
19 Tachwedd 2020
ac mae’r cyfrifon yn awr ar gael i etholwyr lleol eu harchwilio yn unol ag Adran
29 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Mae’r wybodaeth angenrheidiol fel y’i diffinnir gan Adran 18 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn cael ei harddangos yn Adran Dogfennaeth (Cyllid) y wefan.
Os nad yw’r wybodaeth angenrheidiol wedi’i harddangos wrth ochr yr hysbysiad hwn, bydd ar gael i’w harolygu drwy apwyntiad.
I drefnu i gael edrych ar y cyfrifon, cysylltwch â:
Clerc y Cyngor
cyngordolbenmaen@btinternet.com
01248 671243/07799026791
rhwng 9.00 a 7.00 o’r gloch
Dyddiedig: 8fed Rhagfyr 2020
Liz Watkin
(Swyddog Cyllido Cyfrifol)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.
Bydd angen gyrru llythyr cais a Mantolen Ariannol Gyfredol at y Clerc – Liz Watkin, Tyn Lôn, Bethel, Caernarfon. LL55 1UW neu cyngordolbenmaen@btinternet.com.
Dyddiad cau’r ceisiadau 31 Rhagfyr 2020. Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.
Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Cyfarfod Blynyddol Rhithiol
Nos Iau 3ydd o Fedi 2020 am 7 o’r gloch yr hwyr
Gellir ymuno trwy gysylltu â’r Clerc
01248 671243/07799026791
neu
cyngordolbenmaen@btinternet.com