Yr Ardal
Mae’r ardal a wasanaethir gan Gyngor Cymuned Dolbenmaen yn cynnwys wardiau Bryncir, Garndolbenmaen, Golan, Penmorfa, Prenteg a Phentrefelin.
Y Cyngor
Mae Cynghorau Cymuned yn cynrychioli cymunedau unigol o fewn eu siroedd. Eu prif nod yw gwella amgylchedd ac ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yn eu hardaloedd.
Dogfennaeth
Mae Cofnodion, manylion am fynwentydd, ffioedd claddu, rheolau claddu, llwybrau cyhoeddus, rheolau sefydlog a fwy ar gael ar ein tudalen Dogfennaeth
Mae’r ardal a wasanaethir gan Gyngor Cymuned Dolbenmaen yn cynnwys wardiau Bryncir, Garndolbenmaen, Golan, Penmorfa, Prenteg a Phentrefelin.
Poblogaeth o 1343 (Cyfrifiad 2011) sydd gan Dolbenmaen, ac mae’n ymestyn dros 8,609 hectar. Mae’r Cyngor Cymuned yn weithgar iawn ac yn gwneud gwaith amgylcheddol, yn cefnogi datblygiadau cymunedol ac yn cynorthwyo’r trigolion gyda materion personol a chymunedol. Rydym yn cynnig sylwadau ar bob cais cynllunio o fewn y gymuned.
Er mai dim ond Ysgol Garndolbenmaen sydd o fewn dalgylch y Cyngor, mae Ysgol Gynradd Llangybi, Ysgol y Gorlan Tremadog, Ysgol Treferthyr Cricieth ac Ysgol Borth y Gest hefyd yn gwasanaethu plant yr ardal. Dwy ysgol uwchradd sydd yn gwasanaethu’r ardal sef Ysgol Eifionydd, Porthmadog ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Newyddion & Hysbysebion
Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.
Bydd angen llenwi a gyrru:
• Ffurflen Gais am Gymorth Ariannol (Gellir ei lawr lwytho o wefan y Cyngor (www.Dolbenmaen.cymru) neu gael copi drwy gysylltu â’r Clerc).
• Mantolen Ariannol Gyfredol.
Anfonwch eich cais at: Eleri Davies, Cartrefle, Bryncir, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9LX neu drwy e-bost i’r cyfeiriad: cyngordolbenmaen@outlook.com
Dyddiad Cau: 31 Rhagfyr 2025.
Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.
Dolbenmaen Community Council
Applications are invited from organisations within the Council area for financial assistance.
You will need to complete and send an:
• Application Form for Financial Assistance which can be downloaded from the Council’s website (Dolbenmaen.Cymru) or a copy can be received by contacting the Clerk, and
• A current Balance Sheet.
To: Eleri Davies, Clerk, Cartrefle, Bryncir, Gwynedd. LL51 9LX or by e-mail: cyngordolbenmaen@outlook.com.
Closing date for all applications 31 December 2025. Any applications received after this date will not be considered.
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
SEDD WAG ACHLYSUROL – PENMORFA
RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward PENMORFA ar Gyngor Cymuned Dolbenmaen.
Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Mawrth, 11 Tachwedd, 2025.
Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Eleri Davies
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig/ Dated 22 Hydref / October 2025
DOLBENMAEN COMMUNITY COUNCIL
CASUAL VACANCY – PENMORFA
NOTICE IS HEREBY GIVEN of a casual vacancy in the office of councillor in PENMORFA ward on Dolbenmaen Community Council.
An election will be held to fill the vacancy if a request in writing for an election which includes the signatures of ten electors of the said ward is sent to: The Returning Officer, Gwynedd Council, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH within the period ending at 12 noon on Tuesday, 11 November, 2025.
In the absence of a request for an election, the vacancy will be filled by the Community Council.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Eleri Davies
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig/ Dated 22 Hydref / October 2025