Newyddion & Hysbysebion

HYSBYSIAD O GYFARFOD BLYNYDDOL

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Cyngor Cymuned Dolbenmaen

HYSBYSIAD O GYFARFOD BLYNYDDOL

HYSBYSIR TRWY HYN y cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Dolbenmaen yn Nghanolfan Prenteg ac yn rhithiol, ar nos Iau’r 14eg o Fai am 7 o’r gloch yr hwyr.

Cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnir i chi gysylltu ar Clerc – cyngordolbenmaen@outlook.com  / 07557125477 cyn y 30ain o Ebrill os bydd angen gwasanaeth cyfieithu arnoch.

*******************

The Annual General Meeting of Dolbenmaen Community Council will be held in Canolfan Prenteg and virtually on Thursday evening 4th May at 7 o’clock.

The meeting will be held through the medium of Welsh.  If you wish to attend and require the services of a translator, please contact the Clerk by e-mail or telephone before the 30th of April-  cyngordolbenmaen@outlook.com  / 07557125477.

HYSBYSIAD O GYFARFOD BLYNYDDOL
Darllenwch fwy

Cymorth Ariannol

Cyngor Cymuned Dolbenmaen

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol gan fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor.

Bydd angen llenwi a gyrru:

• Ffurflen Gais am Gymorth Ariannol (Gellir ei lawr lwytho o wefan y Cyngor (www.Dolbenmaen.cymru) neu gael copi drwy gysylltu â’r Clerc).
• Mantolen Ariannol Gyfredol.

Anfonwch eich cais at: Eleri Davies, Cartrefle, Bryncir, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9LX neu drwy e-bost i’r cyfeiriad: cyngordolbenmaen@outlook.com

Dyddiad Cau: 31 Rhagfyr 2025.

Ni ystyrir unrhyw gais ar ôl y dyddiad yma.

Cymorth Ariannol
Darllenwch fwy

Financial Assistance

Dolbenmaen Community Council

Applications are invited from organisations within the Council area for financial assistance.

You will need to complete and send an:

• Application Form for Financial Assistance which can be downloaded from the Council’s website (Dolbenmaen.Cymru) or a copy can be received by contacting the Clerk, and
• A current Balance Sheet.

To: Eleri Davies, Clerk, Cartrefle, Bryncir, Gwynedd. LL51 9LX or by e-mail: cyngordolbenmaen@outlook.com.

Closing date for all applications 31 December 2025. Any applications received after this date will not be considered.

Financial Assistance
Darllenwch fwy

SEDD WAG ACHLYSUROL – PENMORFA

CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
SEDD WAG ACHLYSUROL – PENMORFA

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward PENMORFA ar Gyngor Cymuned Dolbenmaen.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Mawrth, 11 Tachwedd, 2025.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Eleri Davies
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig/ Dated 22 Hydref / October 2025

Sedd Wag 2025 Penmorfa

SEDD WAG ACHLYSUROL – PENMORFA
Darllenwch fwy

CASUAL VACANCY – PENMORFA

DOLBENMAEN COMMUNITY COUNCIL
CASUAL VACANCY – PENMORFA

NOTICE IS HEREBY GIVEN of a casual vacancy in the office of councillor in PENMORFA ward on Dolbenmaen Community Council.

An election will be held to fill the vacancy if a request in writing for an election which includes the signatures of ten electors of the said ward is sent to: The Returning Officer, Gwynedd Council, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH within the period ending at 12 noon on Tuesday, 11 November, 2025.

In the absence of a request for an election, the vacancy will be filled by the Community Council.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Eleri Davies
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig/ Dated 22 Hydref / October 2025

Casual Vacancy 2025 Penmorfa

CASUAL VACANCY – PENMORFA
Darllenwch fwy

Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Hysbysiad archwilio

Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Cyngor Cymuned Dolbenmaen

Blwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2025

1. Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2025

2. Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â nhw am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Miss Eleri Davies (Clerc)
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
Gwynedd
LL51 9LX

rhwng oriau 18:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener

yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2025

ac yn gorffen ar 28 Gorffennaf 2025

3. O 15 Medi 2025, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

· yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.

· yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales

4. Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hysbysiad Archwiliad (Adobe PDF)

Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Darllenwch fwy