Y Cyngor

Cynghorau Cymuned

Mae Cynghorau Cymuned yn cynrychioli cymunedau unigol o fewn eu siroedd. Eu prif nod yw gwella amgylchedd ac ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yn eu hardaloedd.

Mae gan Gynghorau Cymuned bwerau cyfreithiol i ddarparu rhai gwasanaethau, ac maent yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Sir yn eu hardal.

Dyma ambell beth mae Cynghorau Cymuned yn gyfrifol amdanynt –

  • hysbysfyrddau ac arwyddion gwybodaeth i’r cyhoedd
  • meinciau cyhoeddus a llochesi bysiau
  • cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus
  • gofalu am fynwentydd.

Pwy all fod yn Gynghorydd Cymunedol?

Mae’n rhaid i chi fod yn:

  • ddeiliad Prydeinig, neu’n ddinesydd y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd; ac ar y “dyddiad perthnasol” (h.y. y diwrnod y cewch eich enwebu arno neu, os oes etholiad, diwrnod yr etholiad) yn 18 oed neu drosodd;

A hefyd:

  • ar y “dyddiad perthnasol”, yn etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor yr ydych am sefyll ar ei chyfer; neu
  • eich bod yn ystod cyfnod cyfan y 12 mis blaenorol wedi meddiannu, yn berchennog neu’n denant unrhyw dir ac adeiladau eraill yn ardal y cyngor; neu
  • yn ystod yr un cyfnod fod eich prif neu unig fan gwaith yn ardal y cyngor; neu
  • eich bod yn ystod y cyfnod 12 mis hwnnw wedi byw yn ardal y cyngor (neu o fewn tair milltir iddi)

Cyllid

Bob blwyddyn, bydd y Cyngor yn ceisio rhagweld pa wasanaethau y bydd yn eu darparu, ac yn amcangyfrif faint o arian fydd ei angen arno i’w cyllido. ‘Gosod praesept’ yw’r term swyddogol am hyn, ac mae’r arian yn cael ei gasglu drwy’r Dreth Gyngor.

Rhoddion Ariannol

Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn caniatáu i Gynghorau Cymuned wario ar weithgarwch nad oes ganddynt bwerau penodol yn ei gylch, os yw’r Cyngor o’r farn y bydd y gwariant o fydd uniongyrchol i’r ardal. Rhoddir caniatâd hefyd i’r Cyngor wario at ddibenion elusennol.

Bob blwyddyn, rhoddir cyfle i fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor a thu hwnt, wneud cais am rodd ariannol. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â’r Clerc a rhoi manylion bras am waith y mudiad ynghyd â chopi o’r fantolen ddiweddaraf.

Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi rhoi arian i’r canolfannau cymdeithasol yn yr ardal, i gylchoedd meithrin lleol ac i amrywiol elusennau, grwpiau a chymdeithasau yn yr ardal leol a thu hwnt.

Llwybrau Cyhoeddus

Mae’r defnydd o lwybrau cyhoeddus yn amrywio, gydag ambell lwybr yn cael ei ddefnyddio’n gyson, a dim cymaint o ddefnydd ar lwybrau eraill.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno system o gategoreiddio llwybrau sy’n seiliedig ar y defnydd y mae pobl yn ei wneud o’r llwybrau a’u buddioldeb.

Categori

Diffiniad

1

Llwybrau sy’n hwyluso symudiad pobl. Fel arfer, maent yn cael defnydd sylweddol neu’n ffurfio cyswllt mewn pentrefi.

2

Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau.

3

Llwybrau, a dim ond defnydd achlysurol arnynt, ond sy’n ffurfio cyswllt pwysig rhwng y llwybrau yng nghategoriau 1 a 2.

4

Llwybr heb unrhyw fudd na photensial amlwg lle mae llwybr arall rhesymol a chyfleus ar gael ar lwybr categori uwch.
Am fwy o wybodaeth gweler Polisiau Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd

Cynghorwyr

Mae 16 sedd ar y Cyngor. Mae’r Cynghorwyr, sy’n rhoi eu gwasanaeth yn wirfoddol ac yn ddi-dâl, yn cynrychioli’r wardiau o fewn y gymuned.

Mae rhai o’r Cynghorwyr wedi gwasanaethu ers blynyddoedd lawer, ac mae’n braf gweld Cynghorwyr ifanc hefyd yn elwa o brofiad helaeth y gweddill, ac yn rhoi llais i’r genhedlaeth iau.

Dyma restr o’r aelodau a’u manylion cyswllt:

WardEnwCyfeiriadRhifau FfônYmlyniad GwleidyddolAelodaeth Is-Bwyllgor
BryncirEdward EvansLlystyn Isaf, Bryncir, Gwynedd.  LL51 9LX01766 530226

07706042244

AnnibynnolMynwentydd.
Eiddo.
Richard ParryTyddyn Gwyn, Rhoslan,
Gwynedd, LL52 0LY
01766 522 541AnnibynnolCyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
PrentegGwilym EvansGelli, Prenteg, Gwynedd.  LL49 9TD01766 512632

07527960363

AnnibynnolCyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
J Richard WilliamsPortreuddyn, Tremadog, Gwynedd.  LL49 9SN01766 513937

07717 192263

AnnibynnolMynwentydd.
Eiddo.
GarndolbenmaenSedd Wag
John JonesTan Ffolt, Garndolbenmaen, Gwynedd.  LL51 9TZ01766 530312

07774603826

AnnibynnolMynwentydd.
Clifford WilliamsLlechwedd, Garndolbenmaen, Gwynedd.  LL51 9TZ01766 530325

07733408916

AnnibynnolEiddo.
Enid EggintonY Trip, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9 NQ07825220236AnnibynnolLlwybrau Cyhoeddus.
GolanJohn A. TillPlas Ymwlch Fawr, Criccieth, LL52 0PW01766 523712AnnibynnolCyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
Megan Lloyd WilliamsCefn Coch Uchaf, Cwmystradllyn, Garndolbenmaen.  LL51 9AZ01766 530319

07377 519426

AnnibynnolMynwentydd.
Eiddo.
PenmorfaSedd Wag
Gwenno Emlyn HuwsFfynnon Beuno, Penmorfa, Gwynedd.  LL49 9SG07765 361132AnnibynnolCyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
Eiddo.
Iddon EdwardsCae Cerrig, Penmorfa, Gwynedd.  LL49 9RT01766 514587

07766 346379

AnnibynnolCyllid a Llywodraethiant.
PentrefelinHuw PritchardNant, 15 Bryn Tyddyn, Pentrefelin, Gwynedd.  LL52 0PE01766 522558

07792 174329

AnnibynnolMynwentydd.
Llwybrau Cyhoeddus.
Sedd Wag
Raymond JonesGlan y Nant, Pentrefelin, Gwynedd. LL52 0PU07747 347223AnnibynnolCyllid a Llywodraethiant.

Cyfarfodydd

Fel arfer, mae’r Cyngor yn cyfarfod  yng Nghanolfan Cymdeithasol Golan ar nos Iau gyntaf y mis am 7 o’r gloch .  Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac eithrio pan fo materion sensitif yn cael eu trafod.  Cynhelir y cyfarfod blynyddol yn ystod mis Mai, ym mhob ward yn eu tro.

Newyddion & Hysbysebion

CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
SEDD WAG ACHLYSUROL – PENMORFA

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward PENMORFA ar Gyngor Cymuned Dolbenmaen.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Mawrth, 11 Tachwedd, 2025.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Eleri Davies
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig/ Dated 22 Hydref / October 2025

Sedd Wag 2025 Penmorfa

DOLBENMAEN COMMUNITY COUNCIL
CASUAL VACANCY – PENMORFA

NOTICE IS HEREBY GIVEN of a casual vacancy in the office of councillor in PENMORFA ward on Dolbenmaen Community Council.

An election will be held to fill the vacancy if a request in writing for an election which includes the signatures of ten electors of the said ward is sent to: The Returning Officer, Gwynedd Council, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH within the period ending at 12 noon on Tuesday, 11 November, 2025.

In the absence of a request for an election, the vacancy will be filled by the Community Council.

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Eleri Davies
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig/ Dated 22 Hydref / October 2025

Casual Vacancy 2025 Penmorfa

Fwy o Newyddion & Hysbysebion >>

Y Cyngor