Y Cyngor

Cynghorau Cymuned

Mae Cynghorau Cymuned yn cynrychioli cymunedau unigol o fewn eu siroedd. Eu prif nod yw gwella amgylchedd ac ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yn eu hardaloedd.

Mae gan Gynghorau Cymuned bwerau cyfreithiol i ddarparu rhai gwasanaethau, ac maent yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Sir yn eu hardal.

Dyma ambell beth mae Cynghorau Cymuned yn gyfrifol amdanynt –

  • hysbysfyrddau ac arwyddion gwybodaeth i’r cyhoedd
  • meinciau cyhoeddus a llochesi bysiau
  • cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus
  • gofalu am fynwentydd.

Pwy all fod yn Gynghorydd Cymunedol?

Mae’n rhaid i chi fod yn:

  • ddeiliad Prydeinig, neu’n ddinesydd y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd; ac ar y “dyddiad perthnasol” (h.y. y diwrnod y cewch eich enwebu arno neu, os oes etholiad, diwrnod yr etholiad) yn 18 oed neu drosodd;

A hefyd:

  • ar y “dyddiad perthnasol”, yn etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor yr ydych am sefyll ar ei chyfer; neu
  • eich bod yn ystod cyfnod cyfan y 12 mis blaenorol wedi meddiannu, yn berchennog neu’n denant unrhyw dir ac adeiladau eraill yn ardal y cyngor; neu
  • yn ystod yr un cyfnod fod eich prif neu unig fan gwaith yn ardal y cyngor; neu
  • eich bod yn ystod y cyfnod 12 mis hwnnw wedi byw yn ardal y cyngor (neu o fewn tair milltir iddi)

Cyllid

Bob blwyddyn, bydd y Cyngor yn ceisio rhagweld pa wasanaethau y bydd yn eu darparu, ac yn amcangyfrif faint o arian fydd ei angen arno i’w cyllido. ‘Gosod praesept’ yw’r term swyddogol am hyn, ac mae’r arian yn cael ei gasglu drwy’r Dreth Gyngor.

Rhoddion Ariannol

Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn caniatáu i Gynghorau Cymuned wario ar weithgarwch nad oes ganddynt bwerau penodol yn ei gylch, os yw’r Cyngor o’r farn y bydd y gwariant o fydd uniongyrchol i’r ardal. Rhoddir caniatâd hefyd i’r Cyngor wario at ddibenion elusennol.

Bob blwyddyn, rhoddir cyfle i fudiadau o fewn dalgylch y Cyngor a thu hwnt, wneud cais am rodd ariannol. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â’r Clerc a rhoi manylion bras am waith y mudiad ynghyd â chopi o’r fantolen ddiweddaraf.

Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi rhoi arian i’r canolfannau cymdeithasol yn yr ardal, i gylchoedd meithrin lleol ac i amrywiol elusennau, grwpiau a chymdeithasau yn yr ardal leol a thu hwnt.

Llwybrau Cyhoeddus

Mae’r defnydd o lwybrau cyhoeddus yn amrywio, gydag ambell lwybr yn cael ei ddefnyddio’n gyson, a dim cymaint o ddefnydd ar lwybrau eraill.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno system o gategoreiddio llwybrau sy’n seiliedig ar y defnydd y mae pobl yn ei wneud o’r llwybrau a’u buddioldeb.

Categori

Diffiniad

1

Llwybrau sy’n hwyluso symudiad pobl. Fel arfer, maent yn cael defnydd sylweddol neu’n ffurfio cyswllt mewn pentrefi.

2

Llwybrau poblogaidd a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pleser gan gynnwys llwybrau o amgylch cymunedau.

3

Llwybrau, a dim ond defnydd achlysurol arnynt, ond sy’n ffurfio cyswllt pwysig rhwng y llwybrau yng nghategoriau 1 a 2.

4

Llwybr heb unrhyw fudd na photensial amlwg lle mae llwybr arall rhesymol a chyfleus ar gael ar lwybr categori uwch.
Am fwy o wybodaeth gweler Polisiau Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd

Cynghorwyr

Mae 16 sedd ar y Cyngor. Mae’r Cynghorwyr, sy’n rhoi eu gwasanaeth yn wirfoddol ac yn ddi-dâl, yn cynrychioli’r wardiau o fewn y gymuned.

Mae rhai o’r Cynghorwyr wedi gwasanaethu ers blynyddoedd lawer, ac mae’n braf gweld Cynghorwyr ifanc hefyd yn elwa o brofiad helaeth y gweddill, ac yn rhoi llais i’r genhedlaeth iau.

Dyma restr o’r aelodau a’u manylion cyswllt:

Ward Enw Cyfeiriad Rhifau Ffôn Ymlyniad Gwleidyddol Aelodaeth Is-Bwyllgor
Bryncir Edward Evans Llystyn Isaf, Bryncir, Gwynedd.  LL51 9LX 01766 530226

07706042244

Annibynnol Mynwentydd.
Eiddo.
Richard Parry Tyddyn Gwyn, Rhoslan,
Gwynedd, LL52 0LY
01766 522 541 Annibynnol Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
Prenteg Gwilym Evans Gelli, Prenteg, Gwynedd.  LL49 9TD 01766 512632

07527960363

Annibynnol Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
J Richard Williams Portreuddyn, Tremadog, Gwynedd.  LL49 9SN 01766 513937

07717 192263

Annibynnol Mynwentydd.
Eiddo.
Garndolbenmaen Sedd Wag
John Jones Tan Ffolt, Garndolbenmaen, Gwynedd.  LL51 9TZ 01766 530312

07774603826

Annibynnol Mynwentydd.
Clifford Williams Llechwedd, Garndolbenmaen, Gwynedd.  LL51 9TZ 01766 530325

07733408916

Annibynnol Eiddo.
Enid Egginton Y Trip, Garndolbenmaen, Gwynedd. LL51 9 NQ 07825220236 Annibynnol Llwybrau Cyhoeddus.
Golan John A. Till Plas Ymwlch Fawr, Criccieth, LL52 0PW 01766 523712 Annibynnol Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
Megan Lloyd Williams Cefn Coch Uchaf, Cwmystradllyn, Garndolbenmaen.  LL51 9AZ 01766 530319

07377 519426

Annibynnol Mynwentydd.
Eiddo.
Penmorfa Sedd Wag
Gwenno Emlyn Huws Ffynnon Beuno, Penmorfa, Gwynedd.  LL49 9SG 07765 361132 Annibynnol Cyllid a Llywodraethiant.
Llwybrau Cyhoeddus.
Eiddo.
Iddon Edwards Cae Cerrig, Penmorfa, Gwynedd.  LL49 9RT 01766 514587

07766 346379

Annibynnol Cyllid a Llywodraethiant.
Pentrefelin Huw Pritchard Nant, 15 Bryn Tyddyn, Pentrefelin, Gwynedd.  LL52 0PE 01766 522558

07792 174329

Annibynnol Mynwentydd.
Llwybrau Cyhoeddus.
Sedd Wag
Raymond Jones Glan y Nant, Pentrefelin, Gwynedd. LL52 0PU 07747 347223 Annibynnol Cyllid a Llywodraethiant.

Cyfarfodydd

Fel arfer, mae’r Cyngor yn cyfarfod  yng Nghanolfan Cymdeithasol Golan ar nos Iau gyntaf y mis am 7 o’r gloch .  Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd ac eithrio pan fo materion sensitif yn cael eu trafod.  Cynhelir y cyfarfod blynyddol yn ystod mis Mai, ym mhob ward yn eu tro.

Newyddion & Hysbysebion

Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
Blwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2026

1. Dyddiad cyhoeddi : 25/06/2025

2. Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â
diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud
â hwy am 20 diwrnod gweithio ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd
rhesymol ar gais i:

Miss Eleri Davies (Clerc)
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
LL51 9LX
cyngordolbenmaen@outlook.com

rhwng oriau 18:00 a 19:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener
gan ddechrau 06 Gorffennaf 2026
ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2026

3. O 14 Medi 2026, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

  • yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
  • yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned,
Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ
neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales.

Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Rhybudd Archwiliad Cyfrifon

Notice of appointment of the date for the exercise of electors’ rights
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
Financial year ending 31 March 2026

1. Date of announcement : 25/06/2026

2. Each year the annual accounts are audited by the Auditor General for Wales. Prior to this date, any interested person has the opportunity to inspect and make copies of the accounts and all books, deeds, contracts, bills, vouchers and receipts etc relating to them for 20 working days on reasonable notice. For the year ended 31 March 2026, these documents will be available on reasonable notice on application to:

Miss Eleri Davies (Clerk)
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
LL51 9LX
cyngordolbenmaen@outlook.com

between the hours of 18:00 and 19:30 on Monday to Friday
commencing on 06 July 2026
and ending on 31 July 2026

3. From 14 September 2026, until the audit has been completed, Local Government Electors and their representatives also have:

  • the right to question the Auditor General about the accounts.
  • the right to attend before the Auditor General and make objections to the accounts or any item in them. Written notice of an objection must first be given to the Auditor General. A copy of the written notice must also be given to the council.

The Auditor General can be contacted via: Community Council Audits, Audit Wales, 1 Capital Quarter, Tyndall Street, Cardiff, CF10 4BZ or by email at
communitycouncilaudits@audit.wales.

The audit is being conducted under the provisions of the Public Audit (Wales) Act 2004, the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 and the Auditor General for Wales’ Code of Audit Practice.

Download this notice

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Cyngor Cymuned Dolbenmaen

HYSBYSIAD O GYFARFOD BLYNYDDOL

HYSBYSIR TRWY HYN y cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Dolbenmaen yn Nghanolfan Prenteg ac yn rhithiol, ar nos Iau’r 14eg o Fai am 7 o’r gloch yr hwyr.

Cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnir i chi gysylltu ar Clerc – cyngordolbenmaen@outlook.com  / 07557125477 cyn y 30ain o Ebrill os bydd angen gwasanaeth cyfieithu arnoch.

*******************

The Annual General Meeting of Dolbenmaen Community Council will be held in Canolfan Prenteg and virtually on Thursday evening 4th May at 7 o’clock.

The meeting will be held through the medium of Welsh.  If you wish to attend and require the services of a translator, please contact the Clerk by e-mail or telephone before the 30th of April-  cyngordolbenmaen@outlook.com  / 07557125477.

Fwy o Newyddion & Hysbysebion >>

Y Cyngor