Yr Ardal
Mae’r ardal a wasanaethir gan Gyngor Cymuned Dolbenmaen yn cynnwys wardiau Bryncir, Garndolbenmaen, Golan, Penmorfa, Prenteg a Phentrefelin.
Y Cyngor
Mae Cynghorau Cymuned yn cynrychioli cymunedau unigol o fewn eu siroedd. Eu prif nod yw gwella amgylchedd ac ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yn eu hardaloedd.
Dogfennaeth
Mae Cofnodion, manylion am fynwentydd, ffioedd claddu, rheolau claddu, llwybrau cyhoeddus, rheolau sefydlog a fwy ar gael ar ein tudalen Dogfennaeth
Mae’r ardal a wasanaethir gan Gyngor Cymuned Dolbenmaen yn cynnwys wardiau Bryncir, Garndolbenmaen, Golan, Penmorfa, Prenteg a Phentrefelin.
Poblogaeth o 1343 (Cyfrifiad 2011) sydd gan Dolbenmaen, ac mae’n ymestyn dros 8,609 hectar. Mae’r Cyngor Cymuned yn weithgar iawn ac yn gwneud gwaith amgylcheddol, yn cefnogi datblygiadau cymunedol ac yn cynorthwyo’r trigolion gyda materion personol a chymunedol. Rydym yn cynnig sylwadau ar bob cais cynllunio o fewn y gymuned.
Er mai dim ond Ysgol Garndolbenmaen sydd o fewn dalgylch y Cyngor, mae Ysgol Gynradd Llangybi, Ysgol y Gorlan Tremadog, Ysgol Treferthyr Cricieth ac Ysgol Borth y Gest hefyd yn gwasanaethu plant yr ardal. Dwy ysgol uwchradd sydd yn gwasanaethu’r ardal sef Ysgol Eifionydd, Porthmadog ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Newyddion & Hysbysebion

Ymwelwch â’r dudalen Cysylltu er mwyn cysylltu gyda’r Cyngor.