Dogfennaeth

Cynllun Hyfforddi

Mae’n ddyletswydd ar Gyngor Cymuned Dolbenmaen ystyried hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr a staff dan Adran 67 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (2021) a chyhoeddi’r cynllun ar ei wefan.

Pwrpas y Cynllun Hyfforddi yw sicrhau bod y Cynghorwyr a’r Clerc yn meddu ar yr wybodaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen er mwyn i’r Cyngor weithredu’n effeithiol.

Rhaid rhoi cynllun hyfforddi newydd ar waith ar ôl pob etholiad arferol o gynghorwyr cymuned i adlewyrchu’r anghenion hyfforddi a ddeillia o newidiadau i aelodaeth y Cyngor a darparu ar gyfer ethol cynghorwyr newydd. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath
ac fe’i hadolygir yn flynyddol i’w gadw’n gyfredol a pherthnasol.

Mae meysydd craidd i fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod gan y cyngor sgiliau a dealltwriaeth ddigonol. Rhain yw:

  • Modiwl ar gyfer Cynghorwyr newydd;
  • Y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol yng Nghymru;
  • Rheolaeth ariannol a llywodraethu.

Bydd pob Cynghorydd a’r Clerc yn cael eu hannog i fynychu cyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol. Mae Un Llais Cymru yn darparu gwybodaeth yn fisol o’i gyrsiau, ac mae’r rhain yn cael eu dosbarthu i bob aelod o’r Cyngor Cymuned. Mae cyrsiau yn cael eu cynnig ar lein ac ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae yna gynnig i’r Clerc fynychu cyrsiau a gynigir gan Gymdeithas y Clercod (SLCC) a bydd aelodaeth y Clerc o’r SLCC yn cael ei dalu gan y Cyngor Cymuned.

Mae pob Cynghorydd yn cael y fersiwn diweddaraf o’r ‘Canllaw Cynghorydd Da’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a dylent ymgyfarwyddo â’i gynnwys.

Bydd y Cyngor Cymuned yn neilltuo cyllid yn flynyddol i sicrhau bod Cynghorwyr a’r Clerc yn medru mynychu cyrsiau hyfforddiant, cynadleddau a digwyddiadau’r sector.

Bydd y Clerc yn gyfrifol am:-

  • gylchredeg unrhyw wybodaeth am gyrsiau addas ac yn awgrymu cyrsiau perthnasol i aelodau’r Cyngor
  • gadw cofnod o’r cyrsiau a fynychwyd yn flynyddol

Cynllun:

  • Cynghorwyr newydd – i fynychu modiwl Cynghorwyr newydd Un Llais Cymru o fewn blwyddyn i’w hethol
  • Yn ddelfrydol ddylai pob Cynghorydd fynychu modiwl hyfforddiant Cod Ymddygiad Un Llais Cymru – o fewn dwy flynedd i’w hethol.
  • Anogaeth i bob Cynghorydd i fynychu cyrsiau priodol Un Llais Cymru
  • Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd y Cyngor– modiwl Sgiliau Cadeirio Un Llais Cymru – o fewn blwyddyn i’w hethol
  • Cadeirydd ac Is-gadeirydd newydd Pwyllgor Cyllid, Polisi a Rheolaethol – Modiwl 21 Cyllid Llywodraeth Leol Un Llais Cymru – o fewn blwyddyn i’w hethol
  • Clerc – Hyfforddiant Parhaus Proffesiynol – mynychu cynadleddau, seminarau, cyrsiau hyfforddiant, digwyddiadau’r sector – pob blwyddyn yn ôl y galw
  • Bydd hyfforddiant yn cael ei ychwanegu i agenda’r cyfarfod misol o 2025 ymlaen er mwyn adolygu cyrsiau hyfforddiant sydd wedi eu mynychu ac i adnabod unrhyw anghenion hyfforddiant ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mynwentydd

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw’r mynwentydd canlynol:

  • Mynwent Bethel, Golan
  • Mynwent Prenteg, Prenteg
  • Mynwent Llanfihangel-y- Pennant, Cwm Pennant
  • Hen Fynwent Ty’n Llan, Penmorfa
  • Mynwent Uwch y Llyn, Pentrefelin

Bydd y Cynghorwyr yn cynnal arolwg o’r mynwentydd er mwyn cadw golwg ar eu cyflwr, gweld a oes angen gwneud unrhyw waith, a gwneud yn siŵr bod y beddi’n ddiogel.


Rheolau Claddu Mynwentydd 2022

Burial Rules 2022

Ffioedd Claddu 2022

Cofnodion

Cofnodion Ebrill 2024 ( Agenda | Crynodeb )

Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Mai 2024 ( Agenda | Crynodeb )

Cofnodion Cyfarfod Misol Mai 2024 ( Agenda | Crynodeb )

Confnodion Mehefin 2024 ( Agenda | Crynodeb )

Ebrill 2020 ( Agenda )
Mai ( Agenda )
Mehefin ( Agenda )
Gorffennaf ( Agenda )
Medi ( Agenda )
Cyfarfod Blynyddol – Medi ( Agenda )
Hydref ( Agenda )
Tachwedd ( Agenda )
Rhagfyr ( Agenda )
Ionawr 2021 ( Agenda )
Chwefror 2021 ( Agenda )
Mawrth 2021 ( Agenda )

Newyddion & Hysbysebion

Hysbysiad archwilio
Hysbysiad o benodi’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN

Y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin, 2024

Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, caiff unrhyw berson â buddiant gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol wrth wneud cais i:

Miss Eleri Davies
Clerc Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
Gwynedd
LL51 9LX

rhwng oriau 18:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener

yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2024
ac yn gorffen ar 26 Gorffennaf 2024

O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

  • yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
  • yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymunedol, Archwilio Cymru, 1 Prifddinas-Chwarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.cymru.

Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Arwyddwyd: Rh. E. Davies    Dyddiad: 16/06/2024

Hysbysiad Archwilio 2023-24

Audit notice
Notice of appointment of the date for the exercise of electors’ rights
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN

Financial year ending 31 March 2024
Date of announcement: 16/06/2024

Each year the annual accounts are audited by the Auditor General for Wales. Prior to this date, any interested person has the opportunity to inspect and make copies of the accounts and all books, deeds, contracts, bills, vouchers and receipts etc relating to them for 20 working days on reasonable notice. For the year ended 31 March 2024, these documents will be available on reasonable notice on application to:

Miss Eleri Davies
Clerc Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
Gwynedd
LL51 9LX

between the hours of 18:00 and 20:00 on Monday to Friday
commencing on 01 July 2024
and ending on 26 July 2024

From 12 September 2024, until the audit has been completed, Local Government Electors and their representatives also have:

  • the right to question the Auditor General about the accounts.
  • the right to attend before the Auditor General and make objections to the accounts or any item in them. Written notice of an objection must first be given to the Auditor General. A copy of the written notice must also be given to the council.

The Auditor General can be contacted via: Community Council Audits, Audit Wales, 1 Capital Quarter, Tyndall Street, Cardiff, CF10 4BZ or by email at communitycouncilaudits@audit.wales.

The audit is being conducted under the provisions of the Public Audit (Wales) Act 2004, the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 and the Auditor General for Wales’ Code of Audit Practice.

Signed: Rh. E. Davies       Dated: 16/06/2024

Audit Notice 2023-24

Cyngor Cymuned Dolbenmaen

HYSBYSIAD O GYFARFOD BLYNYDDOL

HYSBYSIR TRWY HYN

y cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned Dolbenmaen yn Neuadd Garndolbenmaen, ar nos Iau’r 9fed o Fai am 7 o’r gloch yr hwyr.

Cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnir i chi gysylltu ar Clerc – cyngordolbenmaen@outlook.com / 07557125477 cyn y 30ain o Ebrill os bydd angen gwasanaeth cyfieithu arnoch.

*******************

The Annual General Meeting of Dolbenmaen Community Council will be held in Neuadd Garndolbenmaen on Thursday evening 9th May at 7 o’clock.

The meeting will be held through the medium of Welsh. If you wish to attend and require the services of a translator, please contact the Clerk by e-mail or telephone before the 30th of April- cyngordolbenmaen@outlook.com / 07557125477.

Gwahoddir tendrau gan ymgymerwyr i:-

  • Gynnal a chadw mynwentydd a/neu
  • Cynnal a chadw llwybrau a/neu
  • Torri gwair Cae Chwarae Penmorfa a/neu
  • Mân waith cynnal a chadw yn y gymuned

i ddechrau 1 Mai 2024 am gyfnod o flwyddyn gyda’r opsiwn o estyniad am 2 flynedd ychwanegol.

Dyddiad cau tendrau 31 Mawrth 2024.

Am fanylion pellach o’r gwaith a chopi o’r dogfennau tendr, cysylltwch gyda’r Clerc:  Eleri Davies, Cartrefle, Bryncir, Garndolbenmaen, LL51 9LX. Ffôn: 07557125477 (ar ôl 6yh) neu e-bost: cyngordolbenmaen@outlook.com

Fwy o Newyddion & Hysbysebion >>

Dogfennaeth