Hysbysiad o benodi o’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
Blwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2026
1. Dyddiad cyhoeddi : 25/06/2025
2. Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â
diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud
â hwy am 20 diwrnod gweithio ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd
rhesymol ar gais i:
Miss Eleri Davies (Clerc)
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
LL51 9LX
cyngordolbenmaen@outlook.com
rhwng oriau 18:00 a 19:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener
gan ddechrau 06 Gorffennaf 2026
ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2026
3. O 14 Medi 2026, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
- yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
- yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.
Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned,
Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ
neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.wales.
Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.