Uncategorized

Rhybudd o ganlyniad archwiliad y flwyddyn yn diweddu ar 31 mawrth 2021

RHYBUDD O GANLYNIAD ARCHWILIAD
(DEDDF ARCHWILIO CYHOEDDUS (CYMRU) 2004
RHEOLIADAU ARCHWILIO A CHYFRIFO (CYMRU) 2014)

Cyngor Cymuned Dolbenmaen

Y mae RHYBUDD yn cael ei roddi bod yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2021 wedi ei gwblhau ar 26 Ionawr 2022 ac mae’r cyfrifon yn awr ar gael i etholwyr lleol eu harchwilio yn unol ag Adran 29 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae’r wybodaeth angenrheidiol fel y’i diffinnir gan Adran 18 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn cael ei harddangos yn Adran Cyllid y wefan.

Os nad yw’r wybodaeth angenrheidiol wedi’i harddangos wrth ochr yr hysbysiad hwn, bydd ar gael i’w harolygu drwy apwyntiad am 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbyseb.

I drefnu i gael edrych ar y cyfrifon, cysylltwch â:

Clerc y Cyngor
cyngordolbenmaen@btinternet.com
01248 671243/07799026791

rhwng 10 a 7.00 o’r gloch

Dyddiedig:    21  Chwefror 2022
Liz Watkin
(Swyddog Cyllido Cyfrifol)

Rhybudd o ganlyniad archwiliad y flwyddyn yn diweddu ar 31 mawrth 2021
Darllenwch fwy

CASUAL VACANCY – GARNDOLBENMAEN WARD

DOLBENMAEN COMMUNITY COUNCIL
CASUAL VACANCY – GARNDOLBENMAEN

NOTICE IS HEREBY GIVEN of a casual vacancy in the office of councillor in Garndolbenmaen ward on Dolbenmaen Community Council.

An election will be held to fill the vacancy if a request in writing for an election which includes the signatures of ten electors of the said ward is sent to: The Returning Officer, Gwynedd Council, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH within the period ending at 12 noon on Friday, 1 October, 2021.

In the absence of a request for an election, the vacancy will be filled by the Community Council.

Liz Watkin
Clerk to the Council
Dated 13 September 2021

CASUAL VACANCY – GARNDOLBENMAEN WARD
Darllenwch fwy

SEDD WAG ACHLYSUROL- WARD GARNDOLBENMAEN

CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN
SEDD WAG ACHLYSUROL- WARD GARNDOLBENMAEN

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Garndolbenmaen ar Gyngor Cymuned Dolbenmaen.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 1 Hydref, 2021.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

Liz Watkin
Clerc y Cyngor
Dyddiedig 13 Medi 2021

SEDD WAG ACHLYSUROL- WARD GARNDOLBENMAEN
Darllenwch fwy

Hysbysiadau Archwilio sy’n cael eu hychwanegu gan Reoliadau

Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20

Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog ariannol cyfrifol Cyngor Cymuned Dolbenmaen lofnodi a dyddio’r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod  yn cyflwyno derbyniadau a thaliadau’r Cyngor yn gywir am y flwyddyn . Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.

Nid yw’r swyddog ariannol cyfrifol wedi llofnodi a thystio’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 oherwydd nid oedd y Cyngor Cymuned yn cyfarfod tan 1af o Orffennaf.

Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y swyddog ariannol cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod yn rhaid i’r Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.

Cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor ar y 1af o Orffennaf 2021 i gymeradwyo’r cyfrifon.

Hysbysiadau Archwilio sy’n cael eu hychwanegu gan Reoliadau
Darllenwch fwy