Newyddion & Hysbysebion

Hysbysiad Archwilio – 23/24

Hysbysiad archwilio
Hysbysiad o benodi’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED DOLBENMAEN

Y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben 31 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin, 2024

Bob blwyddyn mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, caiff unrhyw berson â buddiant gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol wrth wneud cais i:

Miss Eleri Davies
Clerc Cyngor Cymuned Dolbenmaen
Cartrefle
Bryncir
Garndolbenmaen
Gwynedd
LL51 9LX

rhwng oriau 18:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener

yn dechrau ar 01 Gorffennaf 2024
ac yn gorffen ar 26 Gorffennaf 2024

O 12 Medi 2024, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

  • yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
  • yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol. Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig i’r cyngor hefyd.

Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cyngor Cymunedol, Archwilio Cymru, 1 Prifddinas-Chwarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn communitycouncilaudits@audit.cymru.

Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Arwyddwyd: Rh. E. Davies    Dyddiad: 16/06/2024

Hysbysiad Archwilio 2023-24

Hysbysiad Archwilio – 23/24